Cefnogi iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru
Cefnogi iechyd meddwl plant a phobl ifanc yng Nghymru
Janine Thomas
Arweinydd Clinigol Cymru a Chanolbarth Lloegr – mae Janine yn gwnselydd cymwysedig a goruchwylydd sydd â mwy na 18 mlynedd o brofiad yn rheoli gwasanaethau cwnsela i bobl ifanc yng Nghymru. Cyn ymuno â Place2Be yn 2021, bu Janine yn arwain mentrau strategaeth Llywodraeth Cymru i hyfforddi staff ysgolion, a sefydlodd wasanaeth cwnsela i bobl ifanc 11-25 oed yn ei thref leol.
Manjit Dehal
Cyfarwyddwr Cymru a Chanolbarth Lloegr – Manjit sydd â gorolwg gweithredol dros ein gwasanaethau ledled Cymru a Chanolbarth Lloegr. Bu Manjit yn weithiwr cymdeithasol gynt, ac mae ganddi dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithio mewn awdurdodau lleol a gyda nhw; yn cyflwyno gwasanaethau cefnogi i fenywod a merched o Dde Asia yn Wolverhampton, yn rheoli Canolfannau Plant yn Dudley a Birmingham; ac yn arwain ystod o wasanaethau therapiwtig i blant a theuluoedd.
Mewn blog i nodi Dydd Gŵyl Dewi, mae ein tîm yng Nghymru yn myfyrio ar ein gwaith yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a’n gobeithion ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Mae wedi bod yn 12 mis prysur i dîm Place2Be yng Nghymru. Rydyn ni’n gyffrous ein bod yn estyn ein gwasanaethau ar draws y wlad, gan gychwyn ar bartneriaethau newydd gydag ysgolion yn Rhondda Cynon Taf a Sir Gaerfyrddin. Rydyn ni’n eithriadol falch o’n twf yng Nghymru, ac mae rhagor i ddod. Ers i ni gychwyn ein gwaith yng Nghymru dros ddegawd yn ôl, rydyn ni wedi cefnogi dros 5000 o blant a phobl ifanc.
Rydyn ni’n gwybod pa mor hanfodol bwysig yw cefnogi iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc. Mae adroddiadau diweddar yn dangos amlygrwydd hyn a chynnydd yn y niferoedd, gydag 1 o bob 6 o blant yn profi heriau iechyd meddwl. Mae hefyd lefelau uwch nag erioed o atgyfeiriadau ar gyfer cefnogaeth arbenigol, gyda llawer yn cael trafferth sicrhau mynediad at gefnogaeth amserol sy’n diwallu eu hanghenion. Mae ymyrraeth gynnar a mynediad cynnar at gefnogaeth yn hollbwysig, ac amlygodd adroddiad allanol diweddar ar ein cwnsela mewn ysgolion effaith yr ymyrraeth gynnar rydyn ni’n ei darparu. Y llynedd, daeth adroddiad Pro Bono a luniwyd i fesur effaith ehangach ein darpariaeth cwnsela ysgol mewn ysgolion cynradd i’r casgliad bod gwasanaeth cwnsela un-i-un Place2Be yn cynhyrchu buddion economaidd o ryw £8 am bob £1 sy’n cael ei wario. Mae’r adroddiad llawn i’w weld yma.
Hyfforddiant iechyd meddwl am ddim ar-lein i staff ysgolion yng Nghymru
Rydyn ni’n edrych yn barhaus ar ffyrdd o wella ein gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion ysgolion. Rydyn ni wrth ein bodd heddiw yn cael cyhoeddi bod ein rhaglen hyfforddi Sylfaen Hyrwyddwyr Iechyd Meddwl, a lansiwyd ym mis Awst 2020, bellach wedi cael ei diweddaru i adlewyrchu cyd-destun Cymru. Ers ei lansio yn 2020, mae dros 67,000 o athrawon a gweithwyr proffesiynol wedi cael mynediad i’r cwrs – felly rydyn ni wrth ein bodd yn ei gwneud yn fwy perthnasol ac effeithiol i staff ysgolion yng Nghymru. Mae’r rhaglen hyfforddi ragarweiniol hon ar gael AM DDIM ar-lein i holl staff ysgolion, a bydd ar gael yn ddwyieithog yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Gallwch ddarllen mwy, a chadw lle yn ein carfan nesaf, fydd yn cychwyn ddydd Gwener 21 Ebrill 2023, yma.
Arddangos rhagoriaeth mewn ysgolion
Mae gan Estyn rôl bwysig ym myd addysg yng Nghymru, a chyhoeddir astudiaethau achos lle caiff arfer rhagorol ei gydnabod. Yn ddiweddar, cafodd un o’n hysgolion partner hirsefydlog, Ysgol Gynradd Brynteg yn Sir Gaerfyrddin, eu cydnabod am eu gwaith mewn perthynas â chefnogi iechyd meddwl disgyblion a rhieni ar draws cymuned yr ysgol. Llongyfarchiadau anferth i’r tîm cyfan ym Mrynteg ar eu hadolygiad Ymarfer Effeithiol, sy’n cydnabod gwerth ein cefnogaeth, ac effaith ein model Ymarferydd Iechyd Meddwl.
Dod o hyd i yrfa sydd â phwrpas
Wrth i’n gwaith mewn ysgolion dyfu, rydyn ni wedi croesawu staff newydd i’r tîm, ac mae pawb ohonynt yn cyflawni rôl bwysig yn cefnogi ein twf ac yn datblygu presenoldeb cryf, ystyrlon yng Nghymru. Rydyn ni’n awyddus i recriwtio i nifer o rolau mewn ysgolion ledled Cymru, felly os oes gennych chi neu rywun rydych chi’n eu hadnabod ddiddordeb mewn gweithio i elusen wych ac rydych chi’n credu’n angerddol mewn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc, edrychwch ar ein tudalen Gyrfaoedd.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn clywed mwy am ein gwaith yng Nghymru, neu os hoffech chi gael sgwrs am unrhyw rai o’n gwasanaethau, cysylltwch â wales@place2be.org.uk - bydden ni wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych chi.
Mae gwaith Place2Be yng Nghymru yn cael cefnogaeth hael gan Sefydliad Moondance, Sefydliad Hodge a Chynllun Cyfnod 3 Cronfa Gwydnwch y Trydydd Sector i Gymru, a weinyddir gan WCVA.
News & blogs
The Young BAFTA Roadshow with Place2Be arrives in South London
Children at Surrey Square Primary in South London were surprised with a Young BAFTA Roadshow visit.
Read moreRussell's experience on Place2Be's Level 4 Diploma
Read Russell's experience on our Level 4 Diploma and his desire to encourage more men to consider counselling as a career.
Read moreWalking through pain
Place2Be's Programme Leader for Family Work, Judah, reflects on his experience of the importance of listening.
Read more