Ein gwaith yng Nghymru
Ein gwaith yng Nghymru
Mae Place2Be wedi bod yn cynnig cymorth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru ers 2009 ac ar hyn o bryd, mae’n cyrraedd mwy na 4,345 o ddisgyblion a’u teuluoedd ar draws deuddeg ysgol yn Ne Cymr.
Rydym yn defnyddio dull ysgol gyfan i gefnogi iechyd meddwl plant. Cynigiwn amrywiaeth o wasanaethau gwahanol i fodloni anghenion ysgolion, gan gynnwys cymorth cyffredinol a chymorth wedi’i dargedu i blant a theuluoedd. Ar ben hynny, rydym yn cynnig hyfforddiant arbenigol, cymorth ac adnoddau i athrawon a staff ysgolion.
Rydym yn adeiladu gwydnwch plant drwy siarad, gwaith creadigol a chwarae. Rydym hefyd yn cefnogi rhieni a staff ysgol ac yn helpu ysgolion i fod yn iach yn feddyliol. Darllen am ein gwasanaethau
Mae ein cymunedau’n wynebu heriau sy’n cynnwys tlodi, trais domestig ac anghenion cymhleth. Chwiliwch am ysgolion Place2Be yn eich ardal chi
Am bob £1 a fuddsoddir, mae gan ein gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion cynradd yn y Deyrnas Unedig y potensial i roi £6.20 yn ôl i’r gymdeithas, yn ôl adroddiad gan Pro Bono Economics. Darllenwch yr adroddiad
Mae cyllid ar gyfer ein gwasanaeth yn yr ysgol yn dod o amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys y Grant Datblygu Disgyblion a gweithgareddau codi arian.
Edrychwch ar ein llyfryn ysgolion
Ymateb Place2Be i Fframwaith Dull Ysgol Gyfan Llywodraeth Cymru
Lleoliadau Cwnsela
Mae ein Lleoliadau Cwnsela mewn ysgolion yn gyfle i weithio â phlant mewn lleoliad therapiwtig, diogel.
Ein gwaith yng Nghymru
Mae ysgolion sy’n dewis cydweithio â Place2Be yn derbyn gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol sy’n rhan annatod o dîm yr ysgol. Maen nhw’n cydweithio’n agos â disgyblion, teuluoedd a staff i wella llesiant emosiynol a rhoi cymorth iechyd meddwl i’r ysgol gyfan. Mae hyn yn cynnwys:
- Place2Talk – Gwasanaeth galw heibio cyffredinol i’r myfyrwyr
- Place2Think – Ymgynghoriad ar gyfer athrawon a staff ysgol
- Gwasanaethau a sesiynau dosbarth cyfan sy’n canolbwyntio ar themâu llesiant
- Cwnsela unigol wedi’i dargedu a gwaith grŵp therapiwtig
- Cymorth i rieni a gofalwyr
- Ymgyngoriadau – ynghylch llesiant emosiynol ac ymddygiad, wedi’u teilwra ar gyfer pob ysgol
Darllenwch ragor am ein cymorth iechyd meddwl mewn ysgolion
Hyfforddiant hyblyg i ysgolion
Gall athrawon a staff o unrhyw ysgol gael mynediad i raglenni hyfforddi a DPP proffesiynol Place2Be. Mae’r rhain yn cynnwys:
Rhaglen Sylfaen - Pencampwyr Iechyd Meddwl – rhaglen hyblyg sy’n para pum wythnos i wella dealltwriaeth gweithwyr proffesiynol o iechyd meddwl plant a chyflwyno dulliau gweithredu sy’n meithrin llesiant mewn ysgolion a chymunedau.
Gweithdai arbenigol – a gyflwynir yn yr ysgol neu ar lefel Awdurdod Lleol neu Gonsortiwm Rhanbarthol
Lleoliadau Cwnsela
Mae ein Lleoliadau Cwnsela mewn ysgolion yn gyfle i weithio gyda phlant mewn lleoliad therapiwtig diogel. Darllenwch am ein Lleoliadau Cwnsela a chyflwyno cais
Darllenwch am ein gwasanaethau
Cysylltwch â ni
I gael gwybod mwy, cysylltwch â'n Tîm Cymru drwy e-bost yn wales@place2be.org.uk
News & blogs
My Voice Matters: children express what matters to them
Pupils at Grangetown Primary School in Wales took part in some of Place2Be’s Children’s Mental Health Week class activities.
Read morePlace2Be’s free online training programme for schools now available in Welsh
Our free online Mental Health Champions - Foundation training programme for schools is available in Welsh.
Read moreThe impact of Place2Be’s Family Practitioners: supporting parents and carers in Wales
We sat down with Carrie to learn more about the impact that Family Practitioners can have on the families and communities.
Read more